1 Ac wedi marw Josua, meibion Israel a ymofynasant â'r Arglwydd, gan ddywedyd, Pwy a â i fyny drosom ni yn erbyn y Canaaneaid yn flaenaf, i ymladd â hwynt?
2 A dywedodd yr Arglwydd, Jwda a â i fyny: wele, rhoddais y wlad yn ei law ef.
3 A Jwda a ddywedodd wrth Simeon ei frawd, Tyred i fyny gyda mi i'm rhandir, fel yr ymladdom yn erbyn y Canaaneaid; a minnau a af gyda thi i'th randir dithau. Felly Simeon a aeth gydag ef.
4 A Jwda a aeth i fyny; a'r Arglwydd a roddodd y Canaaneaid a'r Pheresiaid yn eu llaw hwynt: a lladdasant ohonynt, yn Besec, ddengmil o wŷr.
5 A hwy a gawsant Adoni‐besec yn Besec: ac a ymladdasant yn ei erbyn; ac a laddasant y Canaaneaid a'r Pheresiaid.
6 Ond Adoni‐besec a ffodd; a hwy a erlidiasant ar ei ôl ef, ac a'i daliasant ef, ac a dorasant fodiau ei ddwylo ef a'i draed.