Barnwyr 5 BWM

1 Yna y canodd Debora a Barac mab Abinoam, y diwrnod hwnnw, gan ddywedyd,

2 Am ddial dialeddau Israel, ac ymgymell o'r bobl, bendithiwch yr Arglwydd.

3 Clywch, O frenhinoedd; gwrandewch, O dywysogion: myfi, myfi a ganaf i'r Arglwydd; canaf fawl i Arglwydd Dduw Israel.

4 O Arglwydd, pan aethost allan o Seir, pan gerddaist o faes Edom, y ddaear a grynodd, a'r nefoedd a ddiferasant, a'r cymylau a ddefnynasant ddwfr.

5 Y mynyddoedd a doddasant o flaen yr Arglwydd, sef y Sinai hwnnw, o flaen Arglwydd Dduw Israel.

6 Yn nyddiau Samgar mab Anath, yn nyddiau Jael, y llwybrau a aeth yn anhygyrch, a'r fforddolion a gerddasant lwybrau ceimion.

7 Y maestrefi a ddarfuant yn Israel: darfuant, nes i mi, Debora, gyfodi; nes i mi gyfodi yn fam yn Israel.

8 Dewisasant dduwiau newyddion; yna rhyfel oedd yn y pyrth: a welwyd tarian na gwaywffon ymysg deugain mil yn Israel?

9 Fy nghalon sydd tuag at ddeddfwyr Israel, y rhai fu ewyllysgar ymhlith y bobl. Bendithiwch yr Arglwydd.

10 Y rhai sydd yn marchogaeth ar asynnod gwynion, y rhai sydd yn eistedd mewn barn, ac yn rhodio ar hyd y ffordd, lleferwch.

11 Y rhai a waredwyd rhag trwst y saethyddion yn y lleoedd y tynnir dwfr; yno yr adroddant gyfiawnderau yr Arglwydd, cyfiawnderau tuag at y trefydd yn Israel: yna pobl yr Arglwydd a ânt i waered i'r pyrth.

12 Deffro, deffro, Debora; deffro, deffro; traetha gân: cyfod, Barac, a chaethgluda dy gaethglud, O fab Abinoam.

13 Yna y gwnaeth i'r hwn a adewir lywodraethu ar bendefigion y bobl: yr Arglwydd a roddes i mi lywodraeth ar gedyrn.

14 O Effraim yr oedd eu gwreiddyn hwynt yn erbyn Amalec; ar dy ôl di, Benjamin, ymysg dy bobl: y deddfwyr a ddaeth i waered o Machir, yr ysgrifenyddion o Sabulon.

15 A thywysogion Issachar oedd gyda Debora; ie, Issachar, a Barac: efe a anfonwyd ar ei draed i'r dyffryn. Am neilltuaeth Reuben yr oedd mawr ofal calon.

16 Paham yr arhosaist rhwng y corlannau, i wrando brefiadau y defaid? Am neilltuaeth Reuben yr oedd mawr ofal calon.

17 Gilead a drigodd o'r tu hwnt i'r Iorddonen: a phaham yr erys Dan mewn llongau? Aser a drigodd wrth borthladd y môr, ac a arhosodd ar ei adwyau.

18 Pobl Sabulon a roddes eu heinioes i farw; felly Nafftali ar uchelfannau y maes.

19 A brenhinoedd a ddaethant, ac a ymladdasant; yna brenhinoedd Canaan a ymladdasant yn Taanach, wrth ddyfroedd Megido; ni chymerasant elw o arian.

20 O'r nefoedd yr ymladdasant; y sêr yn eu graddau a ymladdodd yn erbyn Sisera.

21 Afon Cison a'u hysgubodd hwynt; yr hen afon, yr afon Cison. Fy enaid, ti a sethraist gadernid.

22 Yna y drylliodd carnau y meirch gan garlamau, carlamau ei gryfion ef.

23 Melltigwch Meros, eb angel yr Arglwydd, gan felltigo melltigwch ei thrigolion: am na ddaethant yn gynhorthwy i'r Arglwydd, yn gynhorthwy i'r Arglwydd yn erbyn y cedyrn.

24 Bendithier Jael, gwraig Heber y Cenead, goruwch gwragedd; bendithier hi goruwch gwragedd yn y babell.

25 Dwfr a geisiodd efe, llaeth a roddes hithau: mewn ffiol ardderchog y dug hi ymenyn.

26 Ei llaw a estynnodd hi at yr hoel, a'i llaw ddeau at forthwyl y gweithwyr: a hi a bwyodd Sisera, ac a dorrodd ei ben ef; gwanodd hefyd, a thrywanodd ei arlais ef.

27 Wrth ei thraed yr ymgrymodd efe; syrthiodd, gorweddodd: wrth ei thraed yr ymgrymodd efe, y syrthiodd: lle yr ymgrymodd, yno y syrthiodd yn farw.

28 Mam Sisera a edrychodd trwy ffenestr, ac a waeddodd trwy'r dellt, Paham yr oeda ei gerbyd ddyfod? paham yr arafodd olwynion ei gerbydau?

29 Ei harglwyddesau doethion a'i hatebasant; hithau hefyd a atebodd iddi ei hun,

30 Oni chawsant hwy? oni ranasant yr anrhaith, llances neu ddwy i bob gŵr? anrhaith o wisgoedd symudliw i Sisera, anrhaith o wniadwaith symudliw, symudliw o wniadwaith o'r ddeutu, cymwys i yddfau yr anrheithwyr?

31 Felly y darfyddo am dy holl elynion, O Arglwydd: a bydded y rhai a'i hoffant ef fel yr haul yn myned rhagddo yn ei rym. A'r wlad a gafodd lonydd ddeugain mlynedd.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21