1 A Jefftha y Gileadiad oedd ŵr cadarn nerthol, ac efe oedd fab i wraig o buteinwraig: a Gilead a genedlasai y Jefftha hwnnw.
2 A gwraig Gilead a ymddûg iddo feibion: a meibion y wraig a gynyddasant, ac a fwriasant ymaith Jefftha, ac a ddywedasant wrtho, Nid etifeddi di yn nhŷ ein tad ni; canys mab gwraig ddieithr ydwyt ti.
3 Yna Jefftha a ffodd rhag ei frodyr, ac a drigodd yng ngwlad Tob; a dynion ofer a ymgasglasant at Jefftha, ac a aethant allan gydag ef.
4 Ac wedi talm o ddyddiau, meibion Ammon a ryfelasant yn erbyn Israel.
5 A phan oedd meibion Ammon yn rhyfela yn erbyn Israel, yna henuriaid Gilead a aethant i gyrchu Jefftha o wlad Tob:
6 Ac a ddywedasant wrth Jefftha, Tyred a bydd yn dywysog i ni, fel yr ymladdom yn erbyn meibion Ammon.
7 A Jefftha a ddywedodd wrth henuriaid Gilead, Oni chasasoch chwi fi, ac a'm gyrasoch o dŷ fy nhad? a phaham y deuwch ataf fi yn awr, pan yw gyfyng arnoch?
8 A henuriaid Gilead a ddywedasant wrth Jefftha, Am hynny y dychwelasom yn awr atat ti, fel y delit gyda ni, ac yr ymladdit yn erbyn meibion Ammon, ac y byddit i ni yn ben ar holl drigolion Gilead.
9 A Jefftha a ddywedodd wrth henuriaid Gilead, O dygwch fi yn fy ôl i ymladd yn erbyn meibion Ammon, a rhoddi o'r Arglwydd hwynt o'm blaen i; a gaf fi fod yn ben arnoch chwi?
10 A henuriaid Gilead a ddywedasant wrth Jefftha, Yr Arglwydd a fyddo yn dyst rhyngom ni, oni wnawn ni felly yn ôl dy air di.
11 Yna Jefftha a aeth gyda henuriaid Gilead; a'r bobl a'i gosodasant ef yn ben ac yn dywysog arnynt: a Jefftha a adroddodd ei holl eiriau gerbron yr Arglwydd ym Mispa.
12 A Jefftha a anfonodd genhadau at frenin meibion Ammon, gan ddywedyd, Beth sydd i ti a wnelych â mi, fel y delit yn fy erbyn i ymladd yn fy ngwlad i?
13 A brenin meibion Ammon a ddywedodd wrth genhadau Jefftha, Oherwydd i Israel ddwyn fy ngwlad i pan ddaeth i fyny o'r Aifft, o Arnon hyd Jabboc, a hyd yr Iorddonen: yn awr gan hynny dod hwynt adref mewn heddwch.
14 A Jefftha a anfonodd drachefn genhadau at frenin meibion Ammon;
15 Ac a ddywedodd wrtho, Fel hyn y dywed Jefftha; Ni ddug Israel dir Moab, na thir meibion Ammon:
16 Ond pan ddaeth Israel i fyny o'r Aifft, a rhodio trwy'r anialwch, hyd y môr coch, a dyfod i Cades;
17 Yna Israel a anfonodd genhadau at frenin Edom, gan ddywedyd, Gad i mi dramwy, atolwg, trwy dy wlad di. Ond ni wrandawodd brenin Edom. A hwy a anfonasant hefyd at frenin Moab: ond ni fynnai yntau. Felly Israel a arhosodd yn Cades.
18 Yna hwy a gerddasant yn yr anialwch, ac a amgylchynasant wlad Edom, a gwlad Moab; ac a ddaethant o du codiad haul i wlad Moab, ac a wersyllasant tu hwnt i Arnon; ac ni ddaethant o fewn terfyn Moab: canys Arnon oedd derfyn Moab.
19 Ac Israel a anfonodd genhadau at Sehon brenin yr Amoriaid, brenin Hesbon; ac Israel a ddywedodd wrtho, Gad i ni dramwy, atolwg, trwy dy wlad di, hyd fy mangre.
20 Ond nid ymddiriedodd Sehon i Israel fyned trwy ei derfyn ef: eithr Sehon a gasglodd ei holl bobl, a hwy a wersyllasant yn Jahas, ac efe a ymladdodd yn erbyn Israel.
21 Ac Arglwydd Dduw Israel a roddodd Sehon a'i holl bobl yn llaw Israel; a hwy a'u trawsant hwynt. Felly Israel a feddiannodd holl wlad yr Amoriaid, trigolion y wlad honno.
22 Meddianasant hefyd holl derfynau yr Amoriaid, o Arnon hyd Jabboc, ac o'r anialwch hyd yr Iorddonen.
23 Felly yn awr, Arglwydd Dduw Israel a fwriodd yr Amoriaid allan o flaen ei bobl Israel: gan hynny ai tydi a'i meddiannit hi?
24 Oni feddienni di yr hyn a roddo Cemos dy dduw i ti i'w feddiannu? Felly yr hyn oll a oresgynno yr Arglwydd ein Duw o'n blaen ni a feddiannwn ninnau.
25 Ac yn awr, a wyt ti yn well na Balac mab Sippor, brenin Moab? a ymrysonodd efe erioed ag Israel, neu gan ymladd a ymladdodd efe i'w herbyn hwy?
26 Pan oedd Israel yn trigo yn Hesbon a'i threfydd, ac yn Aroer a'i threfydd, ac yn yr holl ddinasoedd y rhai sydd wrth derfynau Arnon, dri chan mlynedd; paham nad achubasoch hwynt y pryd hwnnw?
27 Am hynny ni phechais i yn dy erbyn di; ond yr ydwyt ti yn gwneuthur cam â mi, gan ymladd yn fy erbyn i; yr Arglwydd Farnwr a farno heddiw rhwng meibion Israel a meibion Ammon.
28 Er hynny ni wrandawodd brenin meibion Ammon ar eiriau Jefftha, y rhai a anfonodd efe ato.
29 Yna y daeth ysbryd yr Arglwydd ar Jefftha; ac efe a aeth dros Gilead a Manasse; ac a aeth dros Mispa Gilead, ac o Mispa Gilead yr aeth efe drosodd at feibion Ammon.
30 A Jefftha a addunedodd adduned i'r Arglwydd, ac a ddywedodd, Os gan roddi y rhoddi di feibion Ammon yn fy llaw i;
31 Yna yr hwn a ddelo allan o ddrysau fy nhŷ i'm cyfarfod, pan ddychwelwyf mewn heddwch oddi wrth feibion Ammon, a fydd eiddo yr Arglwydd, a mi a'i hoffrymaf ef yn boethoffrwm.
32 Felly Jefftha a aeth drosodd at feibion Ammon i ymladd yn eu herbyn; a'r Arglwydd a'u rhoddodd hwynt yn ei law ef.
33 Ac efe a'u trawodd hwynt o Aroer hyd oni ddelych di i Minnith, sef ugain dinas, a hyd wastadedd y gwinllannoedd, â lladdfa fawr iawn. Felly y darostyngwyd meibion Ammon o flaen meibion Israel.
34 A Jefftha a ddaeth i Mispa i'w dŷ ei hun: ac wele ei ferch yn dyfod allan i'w gyfarfod â thympanau, ac â dawnsiau; a hi oedd ei unig etifedd ef; nid oedd ganddo na mab na merch ond hyhi.
35 A phan welodd efe hi, efe a rwygodd ei ddillad, ac ddywedodd, Ah! ah! fy merch, gan ddarostwng y darostyngaist fi; ti hefyd wyt un o'r rhai sydd yn fy molestu: canys myfi a agorais fy ngenau wrth yr Arglwydd, ac ni allaf gilio.
36 A hi a ddywedodd wrtho, Fy nhad, od agoraist dy enau wrth yr Arglwydd, gwna i mi yn ôl yr hyn a aeth allan o'th enau; gan i'r Arglwydd wneuthur drosot ti ddialedd ar dy elynion, meibion Ammon.
37 Hi a ddywedodd hefyd wrth ei thad, Gwneler i mi y peth hyn; paid â mi ddau fis, fel yr elwyf i fyny ac i waered ar y mynyddoedd, ac yr wylwyf oherwydd fy morwyndod, mi a'm cyfeillesau.
38 Ac efe a ddywedodd, Dos. Ac efe a'i gollyngodd hi dros ddau fis. A hi a aeth â'i chyfeillesau, ac a wylodd oherwydd ei morwyndod ar y mynyddoedd.
39 Ac ymhen y ddau fis hi a ddychwelodd at ei thad: ac efe a wnaeth â hi yr adduned a addunasai efe: a hi ni adnabuasai ŵr. A bu hyn yn ddefod yn Israel,
40 Fyned o ferched Israel bob blwyddyn i alaru am ferch Jefftha y Gileadiad, bedwar diwrnod yn y flwyddyn.