Barnwyr 3 BWM

1 Dyma y cenhedloedd a adawodd yr Arglwydd i brofi Israel trwyddynt, (sef y rhai oll ni wyddent gwbl o ryfeloedd Canaan;

2 Yn unig i beri i genedlaethau meibion Israel wybod, i'w dysgu hwynt i ryfel; y rhai yn ddiau ni wyddent hynny o'r blaen;)

3 Pum tywysog y Philistiaid, a'r holl Ganaaneaid, a'r Sidoniaid, a'r Hefiaid y rhai oedd yn aros ym mynydd Libanus, o fynydd Baal‐hermon, hyd y ffordd y deuir i Hamath.

4 A hwy a fuant i brofi Israel trwyddynt, i wybod a wrandawent hwy ar orchmynion yr Arglwydd, y rhai a orchmynasai efe i'w tadau hwynt trwy law Moses.

5 A meibion Israel a drigasant ymysg y Canaaneaid, yr Hethiaid, a'r Amoriaid, a'r Pheresiaid, yr Hefiaid hefyd, a'r Jebusiaid:

6 Ac a gymerasant eu merched hwynt iddynt yn wragedd, ac a roddasant eu merched i'w meibion hwythau, ac a wasanaethasant eu duwiau hwynt.

7 Felly meibion Israel a wnaethant ddrygioni yng ngolwg yr Arglwydd, ac a anghofiasant yr Arglwydd eu Duw, ac a wasanaethasant Baalim, a'r llwyni.

8 Am hynny dicllonedd yr Arglwydd a lidiodd yn erbyn Israel; ac efe a'u gwerthodd hwynt i law Cusan‐risathaim, brenin Mesopotamia: a meibion Israel a wasanaethasant Cusan‐risathaim wyth mlynedd.

9 A meibion Israel a waeddasant ar yr Arglwydd: a'r Arglwydd a gododd achubwr i feibion Israel, yr hwn a'u hachubodd hwynt; sef Othniel mab Cenas, brawd Caleb, ieuangach nag ef.

10 Ac ysbryd yr Arglwydd a ddaeth arno ef, ac efe a farnodd Israel, ac a aeth allan i ryfel: a'r Arglwydd a roddodd yn ei law ef Cusan‐risathaim, brenin Mesopotamia; a'i law ef oedd drech na Cusan‐risathaim.

11 A'r wlad a gafodd lonydd ddeugain mlynedd. A bu farw Othniel mab Cenas.

12 A meibion Israel a chwanegasant wneuthur yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd: a'r Arglwydd a nerthodd Eglon brenin Moab yn erbyn Israel, am iddynt wneuthur drygioni yng ngolwg yr Arglwydd.

13 Ac efe a gasglodd ato feibion Ammon, ac Amalec, ac a aeth ac a drawodd Israel; a hwy a feddianasant ddinas y palmwydd.

14 Felly meibion Israel a wasanaethasant Eglon brenin Moab ddeunaw mlynedd.

15 Yna meibion Israel a lefasant ar yr Arglwydd: a'r Arglwydd a gododd achubwr iddynt; sef Ehwd mab Gera, fab Jemini, gŵr llawchwith: a meibion Israel a anfonasant anrheg gydag ef i Eglon brenin Moab.

16 Ac Ehwd a wnaeth iddo ddager ddaufiniog o gufydd ei hyd, ac a'i gwregysodd dan ei ddillad, ar ei glun ddeau.

17 Ac efe a ddug yr anrheg i Eglon brenin Moab. Ac Eglon oedd ŵr tew iawn.

18 A phan ddarfu iddo ef gyflwyno yr anrheg, efe a ollyngodd ymaith y bobl a ddygasai yr anrheg.

19 Ond efe ei hun a drodd oddi wrth y chwarelau oedd yn Gilgal, ac a ddywedodd, Y mae i mi air o gyfrinach â thi, O frenin. Dywedodd yntau, Gosteg. A'r holl rai oedd yn sefyll yn ei ymyl ef a aethant allan oddi wrtho ef.

20 Ac Ehwd a ddaeth i mewn ato ef: ac yntau oedd yn eistedd mewn ystafell haf, yr hon oedd iddo ef ei hunan. A dywedodd Ehwd, Gair oddi wrth Dduw sydd gennyf atat ti. Ac efe a gyfododd oddi ar ei orseddfa.

21 Ac Ehwd a estynnodd ei law aswy, ac a gymerth y ddager oddi ar ei glun ddeau, ac a'i brathodd hi yn ei boten ef:

22 A'r carn a aeth i mewn ar ôl y llafn, a'r braster a ymgaeodd am y llafn, fel na allai dynnu y ddager allan o'i boten; a'r dom a ddaeth allan.

23 Yna Ehwd a aeth allan trwy'r cyntedd, ac a gaeodd ddrysau yr ystafell arno, ac a'u clodd.

24 Pan aeth efe ymaith, ei weision a ddaethant: a phan welsant, wele, fod drysau yr ystafell yn gloëdig, hwy a ddywedasant, Diau esmwytháu ei gorff y mae efe yn yr ystafell haf.

25 A hwy a ddisgwyliasant, nes cywilyddio ohonynt: ac wele, nid oedd efe yn agori drysau yr ystafell. Yna hwy a gymerasant agoriad, ac a agorasant: ac wele eu harglwydd hwy wedi cwympo i lawr yn farw.

26 Ac Ehwd a ddihangodd, tra fuant hwy yn aros; ac efe a aeth y tu hwnt i'r chwarelau, ac a ddihangodd i Seirath.

27 A phan ddaeth, efe a utganodd mewn utgorn ym mynydd Effraim: a meibion Israel a ddisgynasant gydag ef o'r mynydd, ac yntau o'u blaen hwynt.

28 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Canlynwch fi: canys yr Arglwydd a roddodd eich gelynion chwi, sef Moab, yn eich llaw chwi. A hwy a aethant i waered ar ei ôl ef, ac a enillasant rydau yr Iorddonen tua Moab, ac ni adawsant i neb fyned drwodd.

29 A hwy a drawsant o'r Moabiaid y pryd hwnnw ynghylch deng mil o wŷr, pawb yn rymus, a phawb yn wŷr nerthol; ac ni ddihangodd neb.

30 Felly y darostyngwyd Moab y dwthwn hwnnw dan law Israel. A'r wlad a gafodd lonydd bedwar ugain mlynedd.

31 Ac ar ei ôl ef y bu Samgar mab Anath; ac efe a drawodd o'r Philistiaid chwe channwr ag irai ychen: yntau hefyd a waredodd Israel.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21