11 Ac efe a aeth oddi yno at drigolion Debir: (ac enw Debir o'r blaen oedd Ciriath‐seffer:)
12 A dywedodd Caleb, Yr hwn a drawo Ciriath‐seffer, ac a'i henillo hi, mi a roddaf Achsa fy merch yn wraig iddo.
13 Ac Othniel mab Cenas, brawd Caleb, ieuangach nag ef, a'i henillodd hi. Yntau a roddes Achsa ei ferch yn wraig iddo.
14 A phan ddaeth hi i mewn ato ef, hi a'i hanogodd ef i geisio gan ei thad ryw faes: a hi a ddisgynnodd oddi ar yr asyn. A dywedodd Caleb wrthi, Beth a fynni di?
15 A hi a ddywedodd wrtho, Dyro i mi fendith: canys gwlad y deau a roddaist i mi; dyro i mi hefyd ffynhonnau dyfroedd. A Caleb a roddodd iddi y ffynhonnau uchaf, a'r ffynhonnau isaf.
16 A meibion Ceni, chwegrwn Moses, a aethant i fyny o ddinas y palmwydd gyda meibion Jwda, i anialwch Jwda, yr hwn sydd yn neau Arad: a hwy a aethant ac a drigasant gyda'r bobl.
17 A Jwda a aeth gyda Simeon ei frawd: a hwy a drawsant y Canaaneaid oedd yn preswylio yn Seffath, ac a'i difrodasant hi. Ac efe a alwodd enw y ddinas Horma.