19 A'r Arglwydd oedd gyda Jwda; ac efe a oresgynnodd y mynydd: ond ni allai efe yrru allan drigolion y dyffryn; canys cerbydau heyrn oedd ganddynt.
20 Ac i Caleb y rhoesant Hebron; fel y llefarasai Moses: ac efe a yrrodd oddi yno dri mab Anac.
21 Ond meibion Benjamin ni yrasant allan y Jebusiaid y rhai oedd yn preswylio yn Jerwsalem: ond y mae y Jebusiaid yn trigo yn Jerwsalem gyda meibion Benjamin hyd y dydd hwn.
22 A thŷ Joseff, hwythau hefyd a aethant i fyny yn erbyn Bethel: a'r Arglwydd oedd gyda hwynt.
23 A thylwyth Joseff a barasant chwilio Bethel: (ac enw y ddinas o'r blaen oedd Lus.)
24 A'r ysbïwyr a welsant ŵr yn dyfod allan o'r ddinas; ac a ddywedasant wrtho, Dangos i ni, atolwg, y ffordd yr eir i'r ddinas, a ni a wnawn drugaredd â thi.
25 A phan ddangosodd efe iddynt hwy y ffordd i fyned i'r ddinas, hwy a drawsant y ddinas â min y cleddyf; ac a ollyngasant ymaith y gŵr a'i holl deulu.