21 Ond meibion Benjamin ni yrasant allan y Jebusiaid y rhai oedd yn preswylio yn Jerwsalem: ond y mae y Jebusiaid yn trigo yn Jerwsalem gyda meibion Benjamin hyd y dydd hwn.
22 A thŷ Joseff, hwythau hefyd a aethant i fyny yn erbyn Bethel: a'r Arglwydd oedd gyda hwynt.
23 A thylwyth Joseff a barasant chwilio Bethel: (ac enw y ddinas o'r blaen oedd Lus.)
24 A'r ysbïwyr a welsant ŵr yn dyfod allan o'r ddinas; ac a ddywedasant wrtho, Dangos i ni, atolwg, y ffordd yr eir i'r ddinas, a ni a wnawn drugaredd â thi.
25 A phan ddangosodd efe iddynt hwy y ffordd i fyned i'r ddinas, hwy a drawsant y ddinas â min y cleddyf; ac a ollyngasant ymaith y gŵr a'i holl deulu.
26 A'r gŵr a aeth i wlad yr Hethiaid; ac a adeiladodd ddinas, ac a alwodd ei henw Lus: dyma ei henw hi hyd y dydd hwn.
27 Ond ni oresgynnodd Manasse Beth‐sean na'i threfydd, na Thaanach na'i threfydd, na thrigolion Dor na'i threfydd, na thrigolion Ibleam na'i threfydd, na thrigolion Megido na'i threfydd: eithr mynnodd y Canaaneaid breswylio yn y wlad honno.