24 A'r ysbïwyr a welsant ŵr yn dyfod allan o'r ddinas; ac a ddywedasant wrtho, Dangos i ni, atolwg, y ffordd yr eir i'r ddinas, a ni a wnawn drugaredd â thi.
25 A phan ddangosodd efe iddynt hwy y ffordd i fyned i'r ddinas, hwy a drawsant y ddinas â min y cleddyf; ac a ollyngasant ymaith y gŵr a'i holl deulu.
26 A'r gŵr a aeth i wlad yr Hethiaid; ac a adeiladodd ddinas, ac a alwodd ei henw Lus: dyma ei henw hi hyd y dydd hwn.
27 Ond ni oresgynnodd Manasse Beth‐sean na'i threfydd, na Thaanach na'i threfydd, na thrigolion Dor na'i threfydd, na thrigolion Ibleam na'i threfydd, na thrigolion Megido na'i threfydd: eithr mynnodd y Canaaneaid breswylio yn y wlad honno.
28 Ond pan gryfhaodd Israel, yna efe a osododd y Canaaneaid dan dreth; ond nis gyrrodd hwynt ymaith yn llwyr.
29 Effraim hefyd ni yrrodd allan y Canaaneaid oedd yn gwladychu yn Geser; eithr y Canaaneaid a breswyliasant yn eu mysg hwynt yn Geser.
30 A Sabulon ni yrrodd ymaith drigolion Citron, na phreswylwyr Nahalol; eithr y Canaaneaid a wladychasant yn eu mysg hwynt, ac a aethant dan dreth.