32 Ond Aser a drigodd ymysg y Canaaneaid, trigolion y wlad; canys ni yrasant hwynt allan.
33 A Nafftali ni yrrodd allan breswylwyr Beth‐semes, na thrigolion Beth‐anath; eithr efe a wladychodd ymysg y Canaaneaid, trigolion y wlad: er hynny preswylwyr Beth‐semes a Beth‐anath oedd dan dreth iddynt.
34 A'r Amoriaid a yrasant feibion Dan i'r mynydd: canys ni adawsant iddynt ddyfod i waered i'r dyffryn.
35 A'r Amoriaid a fynnai breswylio ym mynydd Heres yn Ajalon, ac yn Saalbim: eto llaw tŷ Joseff a orthrechodd, a'r Amoriaid fuant dan dreth iddynt.
36 A therfyn yr Amoriaid oedd o riw Acrabbim, o'r graig, ac uchod.