8 A meibion Jwda a ymladdasant yn erbyn Jerwsalem; ac a'i henillasant hi, ac a'i trawsant â min y cleddyf; a llosgasant y ddinas â thân.
9 Wedi hynny meibion Jwda a aethant i waered i ymladd yn erbyn y Canaaneaid oedd yn trigo yn y mynydd, ac yn y deau, ac yn y gwastadedd.
10 A Jwda a aeth yn erbyn y Canaaneaid oedd yn trigo yn Hebron: (ac enw Hebron o'r blaen oedd Caer‐Arba:) a hwy a laddasant Sesai, ac Ahiman, a Thalmai.
11 Ac efe a aeth oddi yno at drigolion Debir: (ac enw Debir o'r blaen oedd Ciriath‐seffer:)
12 A dywedodd Caleb, Yr hwn a drawo Ciriath‐seffer, ac a'i henillo hi, mi a roddaf Achsa fy merch yn wraig iddo.
13 Ac Othniel mab Cenas, brawd Caleb, ieuangach nag ef, a'i henillodd hi. Yntau a roddes Achsa ei ferch yn wraig iddo.
14 A phan ddaeth hi i mewn ato ef, hi a'i hanogodd ef i geisio gan ei thad ryw faes: a hi a ddisgynnodd oddi ar yr asyn. A dywedodd Caleb wrthi, Beth a fynni di?