1 Ac ar ôl Abimelech, y cyfododd i waredu Israel, Tola, mab Pua, mab Dodo, gŵr o Issachar; ac efe oedd yn trigo yn Samir ym mynydd Effraim.
2 Ac efe a farnodd Israel dair blynedd ar hugain, ac a fu farw, ac a gladdwyd yn Samir.
3 Ac ar ei ôl ef y cyfododd Jair, Gileadiad; ac efe a farnodd Israel ddwy flynedd ar hugain.
4 Ac iddo ef yr oedd deng mab ar hugain yn marchogaeth ar ddeg ar hugain o ebolion asynnod; a deg dinas ar hugain oedd ganddynt, y rhai a elwid Hafoth‐Jair hyd y dydd hwn, y rhai ydynt yng ngwlad Gilead.
5 A Jair a fu farw, ac a gladdwyd yn Camon.
6 A meibion Israel a chwanegasant wneuthur yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd, ac a wasanaethasant Baalim, ac Astaroth, a duwiau Syria, a duwiau Sidon, a duwiau Moab, a duwiau meibion Ammon, a duwiau y Philistiaid; a gwrthodasant yr Arglwydd, ac ni wasanaethasant ef.