11 A dywedodd yr Arglwydd wrth feibion Israel, Oni waredais chwi rhag yr Eifftiaid, a rhag yr Amoriaid, a rhag meibion Ammon, a rhag y Philistiaid?
12 Y Sidoniaid hefyd, a'r Amaleciaid, a'r Maoniaid, a'ch gorthrymasant chwi; a llefasoch arnaf, a minnau a'ch gwaredais chwi o'u llaw hwynt.
13 Eto chwi a'm gwrthodasoch i, ac a wasanaethasoch dduwiau dieithr: am hynny ni waredaf chwi mwyach.
14 Ewch, a llefwch at y duwiau a ddewisasoch: gwaredant hwy chwi yn amser eich cyfyngdra.
15 A meibion Israel a ddywedasant wrth yr Arglwydd, Pechasom; gwna di i ni fel y gwelych yn dda: eto gwared ni, atolwg, y dydd hwn.
16 A hwy a fwriasant ymaith y duwiau dieithr o'u mysg, ac a wasanaethasant yr Arglwydd: a'i enaid ef a dosturiodd, oherwydd adfyd Israel.
17 Yna meibion Ammon a ymgynullasant, ac a wersyllasant yn Gilead: a meibion Israel a ymgasglasant, ac a wersyllasant ym Mispa.