3 Ac ar ei ôl ef y cyfododd Jair, Gileadiad; ac efe a farnodd Israel ddwy flynedd ar hugain.
4 Ac iddo ef yr oedd deng mab ar hugain yn marchogaeth ar ddeg ar hugain o ebolion asynnod; a deg dinas ar hugain oedd ganddynt, y rhai a elwid Hafoth‐Jair hyd y dydd hwn, y rhai ydynt yng ngwlad Gilead.
5 A Jair a fu farw, ac a gladdwyd yn Camon.
6 A meibion Israel a chwanegasant wneuthur yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd, ac a wasanaethasant Baalim, ac Astaroth, a duwiau Syria, a duwiau Sidon, a duwiau Moab, a duwiau meibion Ammon, a duwiau y Philistiaid; a gwrthodasant yr Arglwydd, ac ni wasanaethasant ef.
7 A llidiodd dicllonedd yr Arglwydd yn erbyn Israel; ac efe a'u gwerthodd hwynt yn llaw y Philistiaid, ac yn llaw meibion Ammon.
8 A hwy a flinasant ac a ysigasant feibion Israel y flwyddyn honno: tair blynedd ar bymtheg, holl feibion Israel y rhai oedd tu hwnt i'r Iorddonen, yng ngwlad yr Amoriaid, yr hon sydd yn Gilead.
9 A meibion Ammon a aethant trwy'r Iorddonen, i ymladd hefyd yn erbyn Jwda, ac yn erbyn Benjamin, ac yn erbyn tŷ Effraim; fel y bu gyfyng iawn ar Israel.