9 A meibion Ammon a aethant trwy'r Iorddonen, i ymladd hefyd yn erbyn Jwda, ac yn erbyn Benjamin, ac yn erbyn tŷ Effraim; fel y bu gyfyng iawn ar Israel.
10 A meibion Israel a lefasant ar yr Arglwydd, gan ddywedyd, Pechasom yn dy erbyn; oherwydd gwrthod ohonom ein Duw, a gwasanaethu Baalim hefyd.
11 A dywedodd yr Arglwydd wrth feibion Israel, Oni waredais chwi rhag yr Eifftiaid, a rhag yr Amoriaid, a rhag meibion Ammon, a rhag y Philistiaid?
12 Y Sidoniaid hefyd, a'r Amaleciaid, a'r Maoniaid, a'ch gorthrymasant chwi; a llefasoch arnaf, a minnau a'ch gwaredais chwi o'u llaw hwynt.
13 Eto chwi a'm gwrthodasoch i, ac a wasanaethasoch dduwiau dieithr: am hynny ni waredaf chwi mwyach.
14 Ewch, a llefwch at y duwiau a ddewisasoch: gwaredant hwy chwi yn amser eich cyfyngdra.
15 A meibion Israel a ddywedasant wrth yr Arglwydd, Pechasom; gwna di i ni fel y gwelych yn dda: eto gwared ni, atolwg, y dydd hwn.