17 A Manoa a ddywedodd wrth angel yr Arglwydd, Beth yw dy enw, fel y'th anrhydeddom di pan ddelo dy eiriau i ben?
18 Ac angel yr Arglwydd a ddywedodd wrtho, Paham yr ymofynni am fy enw, gan ei fod yn rhyfeddol?
19 Felly Manoa a gymerth fyn gafr, a bwyd‐offrwm, ac a'i hoffrymodd ar y graig i'r Arglwydd. A'r angel a wnaeth yn rhyfedd: a Manoa a'i wraig oedd yn edrych.
20 Canys, pan ddyrchafodd y fflam oddi ar yr allor tua'r nefoedd, yna angel yr Arglwydd a ddyrchafodd yn fflam yr allor: a Manoa a'i wraig oedd yn edrych ar hynny, ac a syrthiasant i lawr ar eu hwynebau.
21 (Ond ni chwanegodd angel yr Arglwydd ymddangos mwyach i Manoa, nac i'w wraig.) Yna y gwybu Manoa mai angel yr Arglwydd oedd efe.
22 A Manoa a ddywedodd wrth ei wraig, Gan farw y byddwn feirw; canys gwelsom Dduw.
23 Ond ei wraig a ddywedodd wrtho ef, Pe mynasai yr Arglwydd ein lladd ni, ni dderbyniasai efe boethoffrwm a bwyd‐offrwm o'n llaw ni, ac ni ddangosasai efe i ni yr holl bethau hyn, ac ni pharasai efe i ni y pryd hyn glywed y fath bethau.