4 Ac yn awr, atolwg, ymochel, ac nac yf win na diod gadarn, ac na fwyta ddim aflan.
5 Canys wele, ti a feichiogi, ac a esgori ar fab; ac ni ddaw ellyn ar ei ben ef: canys Nasaread i Dduw fydd y bachgen o'r groth: ac efe a ddechrau waredu Israel o law y Philistiaid.
6 Yna y daeth y wraig ac a fynegodd i'w gŵr, gan ddywedyd, Gŵr Duw a ddaeth ataf fi; a'i bryd ef oedd fel pryd angel Duw, yn ofnadwy iawn: ond ni ofynnais iddo o ba le yr oedd, ac ni fynegodd yntau i mi ei enw.
7 Ond efe a ddywedodd wrthyf, Wele, ti a feichiogi, ac a esgori ar fab. Ac yn awr nac yf win na diod gadarn, ac na fwyta ddim aflan: canys Nasaread i Dduw fydd y bachgen, o'r groth hyd ddydd ei farwolaeth.
8 Yna Manoa a weddïodd ar yr Arglwydd, ac a ddywedodd, Atolwg, fy Arglwydd, gad i ŵr Duw yr hwn a anfonaist, ddyfod eilwaith atom ni, a dysgu i ni beth a wnelom i'r bachgen a enir.
9 A Duw a wrandawodd ar lef Manoa: ac angel Duw a ddaeth eilwaith at y wraig, a hi yn eistedd yn y maes; ond Manoa ei gŵr nid oedd gyda hi.
10 A'r wraig a frysiodd, ac a redodd, ac a fynegodd i'w gŵr, ac a ddywedodd wrtho, Wele, ymddangosodd y gŵr i mi, yr hwn a ddaeth ataf fi y dydd arall.