9 A Duw a wrandawodd ar lef Manoa: ac angel Duw a ddaeth eilwaith at y wraig, a hi yn eistedd yn y maes; ond Manoa ei gŵr nid oedd gyda hi.
10 A'r wraig a frysiodd, ac a redodd, ac a fynegodd i'w gŵr, ac a ddywedodd wrtho, Wele, ymddangosodd y gŵr i mi, yr hwn a ddaeth ataf fi y dydd arall.
11 A Manoa a gyfododd, ac a aeth ar ôl ei wraig, ac a ddaeth at y gŵr, ac a ddywedodd wrtho, Ai ti yw y gŵr a leferaist wrth y wraig? Dywedodd yntau, Ie, myfi.
12 A dywedodd Manoa, Deled yn awr dy eiriau i ben. Pa fodd y trinwn y bachgen, ac y gwnawn iddo ef?
13 Ac angel yr Arglwydd a ddywedodd wrth Manoa, Rhag yr hyn oll a ddywedais wrth y wraig, ymocheled hi.
14 Na fwytaed o ddim a ddêl allan o'r winwydden, nac yfed win na diod gadarn, ac na fwytaed ddim aflan: cadwed yr hyn oll a orchmynnais iddi.
15 A dywedodd Manoa wrth angel yr Arglwydd, Gad, atolwg, i ni dy atal, tra y paratôm fyn gafr ger dy fron di.