1 A Samson a aeth i waered i Timnath; ac a ganfu wraig yn Timnath, o ferched y Philistiaid.
2 Ac efe a ddaeth i fyny, ac a fynegodd i'w dad ac i'w fam, ac a ddywedodd, Mi a welais wraig yn Timnath o ferched y Philistiaid: cymerwch yn awr honno yn wraig i mi.
3 Yna y dywedodd ei dad a'i fam wrtho, Onid oes ymysg merched dy frodyr, nac ymysg fy holl bobl, wraig, pan ydwyt ti yn myned i geisio gwraig o'r Philistiaid dienwaededig? A dywedodd Samson wrth ei dad, Cymer hi i mi; canys y mae hi wrth fy modd i.
4 Ond ni wyddai ei dad ef na'i fam mai oddi wrth yr Arglwydd yr oedd hyn, mai ceisio achos yr oedd efe yn erbyn y Philistiaid: canys y Philistiaid oedd y pryd hwnnw yn arglwyddiaethu ar Israel.
5 Yna Samson a aeth i waered a'i dad a'i fam, i Timnath; ac a ddaethant hyd winllannoedd Timnath: ac wele genau llew yn rhuo yn ei gyfarfod ef.
6 Ac ysbryd yr Arglwydd a ddaeth yn rymus arno ef; ac efe a holltodd y llew fel yr holltid myn, ac nid oedd dim yn ei law ef: ond ni fynegodd efe i'w dad nac i'w fam yr hyn a wnaethai.
7 Ac efe a aeth i waered, ac a ymddiddanodd â'r wraig; ac yr oedd hi wrth fodd Samson.