12 A Samson a ddywedodd wrthynt, Rhoddaf i chwi ddychymyg yn awr: os gan fynegi y mynegwch ef i mi o fewn saith niwrnod y wledd, ac a'i cewch; yna y rhoddaf i chwi ddeg ar hugain o lenllieiniau, a deg pâr ar hugain o ddillad:
13 Ond os chwi ni fedrwch ei fynegi i mi; yna chwi a roddwch i mi ddeg ar hugain o lenllieiniau, a deg pâr ar hugain o wisgoedd. Hwythau a ddywedasant wrtho, Traetha dy ddychymyg, fel y clywom ef.
14 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Allan o'r bwytawr y daeth bwyd, ac o'r cryf y daeth allan felystra. Ac ni fedrent ddirnad y dychymyg mewn tri diwrnod.
15 Ac yn y seithfed dydd y dywedasant wrth wraig Samson, Huda dy ŵr, fel y mynego efe i ni y dychymyg; rhag i ni dy losgi di a thŷ dy dad â thân: ai i'n tlodi ni y'n gwahoddasoch? onid felly y mae?
16 A gwraig Samson a wylodd wrtho ef, ac a ddywedodd, Yn ddiau y mae yn gas gennyt fi, ac nid wyt yn fy ngharu: dychymyg a roddaist i feibion fy mhobl, ac nis mynegaist i mi. A dywedodd yntau wrthi, Wele, nis mynegais i'm tad nac i'm mam: ac a'i mynegwn i ti?
17 A hi a wylodd wrtho ef y saith niwrnod hynny, tra yr oeddid yn cynnal y wledd: ac ar y seithfed dydd y mynegodd efe iddi hi, canys yr oedd hi yn ei flino ef: a hi a fynegodd y dychymyg i feibion ei phobl.
18 A gwŷr y ddinas a ddywedasant wrtho ef y seithfed dydd, cyn machludo'r haul, Beth sydd felysach na mêl? a pheth gryfach na llew? Dywedodd yntau wrthynt, Oni buasai i chwi aredig â'm hanner i, ni chawsech allan fy nychymyg.