13 Hwythau a'i hatebasant ef, gan ddywedyd, Na ruthrwn: eithr gan rwymo y'th rwymwn di, ac y'th roddwn yn eu llaw hwynt; ond ni'th laddwn di. A rhwymasant ef â dwy raff newydd, ac a'i dygasant ef i fyny o'r graig.
14 A phan ddaeth efe i Lehi, y Philistiaid a floeddiasant wrth gyfarfod ag ef. Ac ysbryd yr Arglwydd a ddaeth arno ef; a'r rhaffau oedd am ei freichiau a aethant fel llin a losgasid yn tân, a'r rhwymau a ddatodasant oddi am ei ddwylo ef.
15 Ac efe a gafodd ên asyn ir; ac a estynnodd ei law, ac a'i cymerodd, ac a laddodd â hi fil o wŷr.
16 A Samson a ddywedodd, A gên asyn, pentwr ar bentwr; â gên asyn y lleddais fil o wŷr.
17 A phan orffennodd efe lefaru, yna efe a daflodd yr ên o'i law, ac a alwodd y lle hwnnw Ramath‐lehi.
18 Ac efe a sychedodd yn dost; ac a lefodd ar yr Arglwydd, ac a ddywedodd, Tydi a roddaist yn llaw dy was yr ymwared mawr yma: ac yn awr a fyddaf fi farw gan syched, a syrthio yn llaw y rhai dienwaededig?
19 Ond Duw a holltodd y cilddant oedd yn yr ên, fel y daeth allan ddwfr ohono; ac efe a yfodd, a'i ysbryd a ddychwelodd, ac efe a adfywiodd: am hynny y galwodd efe ei henw En‐haccore, yr hon sydd yn Lehi hyd y dydd hwn.