5 Ac efe a gyneuodd dân yn y ffaglau, ac a'u gollyngodd hwynt i ydau y Philistiaid; ac a losgodd hyd yn oed y dasau, a'r ŷd ar ei droed, y gwinllannoedd hefyd, a'r olewydd.
6 Yna y Philistiaid a ddywedasant, Pwy a wnaeth hyn? Hwythau a ddywedasant, Samson daw y Timniad; am iddo ddwyn ei wraig ef, a'i rhoddi i'w gyfaill ef. A'r Philistiaid a aethant i fyny, ac a'i llosgasant hi a'i thad â thân.
7 A dywedodd Samson wrthynt, Er i chwi wneuthur fel hyn, eto mi a ymddialaf arnoch chwi; ac wedi hynny y peidiaf.
8 Ac efe a'u trawodd hwynt glun a morddwyd â lladdfa fawr: ac efe a aeth i waered, ac a arhosodd yng nghopa craig Etam.
9 Yna y Philistiaid a aethant i fyny, ac a wersyllasant yn Jwda, ac a ymdaenasant yn Lehi.
10 A gwŷr Jwda a ddywedasant, Paham y daethoch i fyny i'n herbyn ni? Dywedasant hwythau, I rwymo Samson y daethom i fyny, i wneuthur iddo ef fel y gwnaeth yntau i ninnau.
11 Yna tair mil o wŷr o Jwda a aethant i gopa craig Etam, ac a ddywedasant wrth Samson, Oni wyddost ti fod y Philistiaid yn arglwyddiaethu arnom ni? paham gan hynny y gwnaethost hyn â ni? Dywedodd yntau wrthynt, Fel y gwnaethant hwy i mi, felly y gwneuthum innau iddynt hwythau.