1 Yna Samson a aeth i Gasa; ac a ganfu yno buteinwraig, ac a aeth i mewn ati hi.
2 A mynegwyd i'r Gasiaid, gan ddywedyd, Daeth Samson yma. A hwy a gylchynasant, ac a gynllwynasant iddo, ar hyd y nos, ym mhorth y ddinas; ac a fuant ddistaw ar hyd y nos, gan ddywedyd, Y bore pan oleuo hi, ni a'i lladdwn ef.
3 A Samson a orweddodd hyd hanner nos; ac a gyfododd ar hanner nos, ac a ymaflodd yn nrysau porth y ddinas, ac yn y ddau bost, ac a aeth ymaith â hwynt ynghyd â'r bar, ac a'u gosododd ar ei ysgwyddau, ac a'u dug hwynt i fyny i ben bryn sydd gyferbyn â Hebron.
4 Ac wedi hyn efe a garodd wraig yn nyffryn Sorec, a'i henw Dalila.