11 Ac efe a ddywedodd wrthi, Pe gan rwymo y rhwyment fi â rhaffau newyddion, y rhai ni wnaethpwyd gwaith â hwynt; yna y gwanychwn, ac y byddwn fel gŵr arall.
12 Am hynny Dalila a gymerth raffau newyddion, ac a'i rhwymodd ef â hwynt; ac a ddywedodd wrtho, Y mae y Philistiaid arnat ti, Samson. (Ac yr oedd cynllwynwyr yn aros mewn ystafell.) Ac efe a'u torrodd hwynt oddi am ei freichiau fel edau.
13 A Dalila a ddywedodd wrth Samson, Hyd yn hyn y twyllaist fi, ac y dywedaist gelwydd wrthyf: mynega i mi, â pha beth y'th rwymid. Dywedodd yntau wrthi hi, Pe plethit ti saith gudyn fy mhen ynghyd â'r we.
14 A hi a'i gwnaeth yn sicr â'r hoel; ac a ddywedodd wrtho ef, Y mae y Philistiaid arnat ti, Samson. Ac efe a ddeffrôdd o'i gwsg, ac a aeth ymaith â hoel y garfan, ac â'r we.
15 A hi a ddywedodd wrtho ef, Pa fodd y dywedi, Cu gennyf dydi, a'th galon heb fod gyda mi? Teirgwaith bellach y'm twyllaist, ac ni fynegaist i mi ym mha fan y mae dy fawr nerth.
16 Ac oherwydd ei bod hi yn ei flino ef â'i geiriau beunydd, ac yn ei boeni ef, ei enaid a ymofidiodd i farw:
17 Ac efe a fynegodd iddi ei holl galon; ac a ddywedodd wrthi, Ni ddaeth ellyn ar fy mhen i: canys Nasaread i Dduw ydwyf fi o groth fy mam. Ped eillid fi, yna y ciliai fy nerth oddi wrthyf, ac y gwanychwn, ac y byddwn fel gŵr arall.