14 A hi a'i gwnaeth yn sicr â'r hoel; ac a ddywedodd wrtho ef, Y mae y Philistiaid arnat ti, Samson. Ac efe a ddeffrôdd o'i gwsg, ac a aeth ymaith â hoel y garfan, ac â'r we.
15 A hi a ddywedodd wrtho ef, Pa fodd y dywedi, Cu gennyf dydi, a'th galon heb fod gyda mi? Teirgwaith bellach y'm twyllaist, ac ni fynegaist i mi ym mha fan y mae dy fawr nerth.
16 Ac oherwydd ei bod hi yn ei flino ef â'i geiriau beunydd, ac yn ei boeni ef, ei enaid a ymofidiodd i farw:
17 Ac efe a fynegodd iddi ei holl galon; ac a ddywedodd wrthi, Ni ddaeth ellyn ar fy mhen i: canys Nasaread i Dduw ydwyf fi o groth fy mam. Ped eillid fi, yna y ciliai fy nerth oddi wrthyf, ac y gwanychwn, ac y byddwn fel gŵr arall.
18 A phan welodd Dalila fynegi ohono ef iddi hi ei holl galon, hi a anfonodd ac a alwodd am bendefigion y Philistiaid, gan ddywedyd, Deuwch i fyny unwaith; canys efe a fynegodd i mi ei holl galon. Yna arglwyddi'r Philistiaid a ddaethant i fyny ati hi, ac a ddygasant arian yn eu dwylo.
19 A hi a wnaeth iddo gysgu ar ei gliniau; ac a alwodd ar ŵr, ac a barodd eillio saith gudyn ei ben ef: a hi a ddechreuodd ei gystuddio ef; a'i nerth a ymadawodd oddi wrtho.
20 A hi a ddywedodd, Y mae y Philistiaid arnat ti, Samson. Ac efe a ddeffrôdd o'i gwsg, ac a ddywedodd, Af allan y waith hon fel cynt, ac ymysgydwaf. Ond ni wyddai efe fod yr Arglwydd wedi cilio oddi wrtho.