2 A mynegwyd i'r Gasiaid, gan ddywedyd, Daeth Samson yma. A hwy a gylchynasant, ac a gynllwynasant iddo, ar hyd y nos, ym mhorth y ddinas; ac a fuant ddistaw ar hyd y nos, gan ddywedyd, Y bore pan oleuo hi, ni a'i lladdwn ef.
3 A Samson a orweddodd hyd hanner nos; ac a gyfododd ar hanner nos, ac a ymaflodd yn nrysau porth y ddinas, ac yn y ddau bost, ac a aeth ymaith â hwynt ynghyd â'r bar, ac a'u gosododd ar ei ysgwyddau, ac a'u dug hwynt i fyny i ben bryn sydd gyferbyn â Hebron.
4 Ac wedi hyn efe a garodd wraig yn nyffryn Sorec, a'i henw Dalila.
5 Ac arglwyddi'r Philistiaid a aethant i fyny ati hi, ac a ddywedasant wrthi, Huda ef, ac edrych ym mha le y mae ei fawr nerth ef, a pha fodd y gorthrechwn ef, fel y rhwymom ef i'w gystuddio: ac ni a roddwn i ti bob un fil a chant o arian.
6 A Dalila a ddywedodd wrth Samson, Mynega i mi, atolwg, ym mha fan y mae dy fawr nerth di, ac â pha beth y'th rwymid i'th gystuddio.
7 A Samson a ddywedodd wrthi, Pe rhwyment fi â saith o wdyn irion, y rhai ni sychasai; yna y gwanychwn, ac y byddwn fel gŵr arall.
8 Yna arglwyddi'r Philistiaid a ddygasant i fyny ati hi saith o wdyn irion, y rhai ni sychasent; a hi a'i rhwymodd ef â hwynt.