21 Ond y Philistiaid a'i daliasant ef, ac a dynasant ei lygaid ef, ac a'i dygasant ef i waered i Gasa, ac a'i rhwymasant ef â gefynnau pres; ac yr oedd efe yn malu yn y carchardy.
22 Eithr gwallt ei ben ef a ddechreuodd dyfu drachefn, ar ôl ei eillio.
23 Yna arglwyddi'r Philistiaid a ymgasglasant i aberthu aberth mawr i Dagon eu duw, ac i orfoleddu: canys dywedasant, Ein duw ni a roddodd Samson ein gelyn yn ein llaw ni.
24 A phan welodd y bobl ef, hwy a ganmolasant eu duw: canys dywedasant, Ein duw ni a roddodd ein gelyn yn ein dwylo ni, yr hwn oedd yn anrheithio ein gwlad ni, yr hwn a laddodd lawer ohonom ni.
25 A phan oedd eu calon hwynt yn llawen, yna y dywedasant, Gelwch am Samson, i beri i ni chwerthin. A hwy a alwasant am Samson o'r carchardy, fel y chwaraeai o'u blaen hwynt; a hwy a'i gosodasant ef rhwng y colofnau.
26 A Samson a ddywedodd wrth y llanc oedd yn ymaflyd yn ei law ef, Gollwng, a gad i mi gael gafael ar y colofnau y mae y tŷ yn sefyll arnynt, fel y pwyswyf arnynt.
27 A'r tŷ oedd yn llawn o wŷr a gwragedd; a holl arglwyddi'r Philistiaid oedd yno: ac ar y nen yr oedd ynghylch tair mil o wŷr a gwragedd yn edrych tra yr ydoedd Samson yn chwarae.