27 A'r tŷ oedd yn llawn o wŷr a gwragedd; a holl arglwyddi'r Philistiaid oedd yno: ac ar y nen yr oedd ynghylch tair mil o wŷr a gwragedd yn edrych tra yr ydoedd Samson yn chwarae.
28 A Samson a alwodd ar yr Arglwydd, ac a ddywedodd, O Arglwydd IOR, cofia fi, atolwg, a nertha fi, atolwg, yn unig y waith hon, O Dduw, fel y dialwyf ag un dialedd ar y Philistiaid am fy nau lygad.
29 A Samson a ymaflodd yn y ddwy golofn ganol, y rhai yr oedd y tŷ yn sefyll arnynt, ac a ymgynhaliodd wrthynt, un yn ei ddeheulaw, a'r llall yn ei law aswy.
30 A dywedodd Samson, Bydded farw fy einioes gyda'r Philistiaid. Ac efe a ymgrymodd â'i holl nerth; a syrthiodd y tŷ ar y pendefigion, ac ar yr holl bobl oedd ynddo: a'r meirw y rhai a laddodd efe wrth farw, oedd fwy nag a laddasai efe yn ei fywyd.
31 A'i frodyr ef, a holl dŷ ei dad ef, a ddaethant i waered, ac a'i cymerasant ef, ac a'i dygasant i fyny, ac a'i claddasant ef rhwng Sora ac Estaol, ym meddrod Manoa ei dad. Ac efe a farnasai Israel ugain mlynedd.