6 A Dalila a ddywedodd wrth Samson, Mynega i mi, atolwg, ym mha fan y mae dy fawr nerth di, ac â pha beth y'th rwymid i'th gystuddio.
7 A Samson a ddywedodd wrthi, Pe rhwyment fi â saith o wdyn irion, y rhai ni sychasai; yna y gwanychwn, ac y byddwn fel gŵr arall.
8 Yna arglwyddi'r Philistiaid a ddygasant i fyny ati hi saith o wdyn irion, y rhai ni sychasent; a hi a'i rhwymodd ef â hwynt.
9 (A chynllwynwyr oedd yn aros ganddi mewn ystafell.) A hi a ddywedodd wrtho ef, Y mae y Philistiaid arnat ti, Samson. Ac efe a dorrodd y gwdyn, fel y torrir edau garth wedi cyffwrdd â'r tân: felly ni wybuwyd ei gryfder ef.
10 A dywedodd Dalila wrth Samson, Ti a'm twyllaist, ac a ddywedaist gelwydd wrthyf: yn awr mynega i mi, atolwg, â pha beth y gellid dy rwymo.
11 Ac efe a ddywedodd wrthi, Pe gan rwymo y rhwyment fi â rhaffau newyddion, y rhai ni wnaethpwyd gwaith â hwynt; yna y gwanychwn, ac y byddwn fel gŵr arall.
12 Am hynny Dalila a gymerth raffau newyddion, ac a'i rhwymodd ef â hwynt; ac a ddywedodd wrtho, Y mae y Philistiaid arnat ti, Samson. (Ac yr oedd cynllwynwyr yn aros mewn ystafell.) Ac efe a'u torrodd hwynt oddi am ei freichiau fel edau.