1 Ac yr oedd gŵr o fynydd Effraim, a'i enw Mica.
2 Ac efe a ddywedodd wrth ei fam, Y mil a'r can sicl arian a dducpwyd oddi arnat, ac y rhegaist amdanynt, ac y dywedaist hefyd lle y clywais; wele yr arian gyda mi, myfi a'i cymerais. A dywedodd ei fam, Bendigedig fyddych, fy mab, gan yr Arglwydd.
3 A phan roddodd efe y mil a'r can sicl arian adref i'w fam, ei fam a ddywedodd, Gan gysegru y cysegraswn yr arian i'r Arglwydd o'm llaw, i'm mab, i wneuthur delw gerfiedig a thoddedig: am hynny yn awr mi a'i rhoddaf eilwaith i ti.
4 Eto efe a dalodd yr arian i'w fam. A'i fam a gymerth ddau can sicl o arian, ac a'u rhoddodd i'r toddydd; ac efe a'u gwnaeth yn ddelw gerfiedig, a thoddedig: a hwy a fuant yn nhŷ Mica.