10 A Mica a ddywedodd wrtho. Trig gyda mi, a bydd i mi yn dad ac yn offeiriad; a mi a roddaf i ti ddeg sicl o arian bob blwyddyn, a phâr o ddillad, a'th luniaeth. Felly y Lefiad a aeth i mewn.
11 A'r Lefiad a fu fodlon i aros gyda'r gŵr; a'r gŵr ieuanc oedd iddo fel un o'i feibion.
12 A Mica a urddodd y Lefiad; a'r gŵr ieuanc fu yn offeiriad iddo, ac a fu yn nhŷ Mica.
13 Yna y dywedodd Mica, Yn awr y gwn y gwna yr Arglwydd ddaioni i mi; gan fod Lefiad gennyf yn offeiriad.