25 A meibion Dan a ddywedasant wrtho, Na ad glywed dy lef yn ein mysg ni; rhag i wŷr dicllon ruthro arnat ti, a cholli ohonot dy einioes, ac einioes dy deulu.
26 A meibion Dan a aethant i'w ffordd. A phan welodd Mica eu bod hwy yn gryfach nag ef, efe a drodd, ac a ddychwelodd i'w dŷ.
27 A hwy a gymerasant y pethau a wnaethai Mica, a'r offeiriad oedd ganddo ef, ac a ddaethant i Lais, at bobl lonydd a diofal; ac a'u trawsant hwy â min y cleddyf, ac a losgasant y ddinas â thân.
28 Ac nid oedd waredydd; canys pell oedd hi oddi wrth Sidon, ac nid oedd negesau rhyngddynt a neb; hefyd yr oedd hi yn y dyffryn oedd wrth Beth‐rehob: a hwy a adeiladasant ddinas, ac a drigasant ynddi.
29 A hwy a alwasant enw y ddinas Dan, yn ôl enw Dan eu tad, yr hwn a anesid i Israel: er hynny Lais oedd enw y ddinas ar y cyntaf.
30 A meibion Dan a osodasant i fyny iddynt y ddelw gerfiedig: a Jonathan mab Gerson, mab Manasse, efe a'i feibion, fuant offeiriaid i lwyth Dan hyd ddydd caethgludiad y wlad.
31 A hwy a osodasant i fyny iddynt y ddelw gerfiedig a wnaethai Mica, yr holl ddyddiau y bu tŷ Dduw yn Seilo.