5 A hwy a ddywedasant wrtho ef, Ymgynghora, atolwg, â Duw, fel y gwypom a lwydda ein ffordd yr ydym ni yn rhodio arni.
6 A'r offeiriad a ddywedodd wrthynt, Ewch mewn heddwch: gerbron yr Arglwydd y mae eich ffordd chwi, yr hon a gerddwch.
7 Yna y pumwr a aethant ymaith, ac a ddaethant i Lais; ac a welsant y bobl oedd ynddi yn trigo mewn diogelwch, yn ôl arfer y Sidoniaid, yn llonydd ac yn ddiofal; ac nid oedd swyddwr yn y wlad, yr hwn a allai eu gyrru hwynt i gywilydd mewn dim: a phell oeddynt oddi wrth y Sidoniaid, ac heb negesau rhyngddynt a neb.
8 A hwy a ddaethant at eu brodyr i Sora ac Estaol. A'u brodyr a ddywedasant wrthynt, Beth a ddywedwch chwi?
9 Hwythau a ddywedasant, Cyfodwch, ac awn i fyny arnynt: canys gwelsom y wlad; ac wele, da iawn yw hi. Ai tewi yr ydych chwi? na ddiogwch fyned, i ddyfod i mewn i feddiannu'r wlad.
10 Pan eloch, chwi a ddeuwch at bobl ddiofal, a gwlad eang: canys Duw a'i rhoddodd hi yn eich llaw chwi: sef lle nid oes ynddo eisiau dim a'r y sydd ar y ddaear.
11 Ac fe aeth oddi yno, o dylwyth y Daniaid, o Sora ac o Estaol, chwe channwr, wedi ymwregysu ag arfau rhyfel.