22 A phan oeddynt hwy yn llawenhau eu calon, wele, gwŷr y ddinas, rhai o feibion Belial, a amgylchynasant y tŷ, a gurasant y drws, ac a ddywedasant wrth berchen y tŷ, sef yr hen ŵr, gan ddywedyd, Dwg allan y gŵr a ddaeth i mewn i'th dŷ, fel yr adnabyddom ef.
23 A'r gŵr, perchen y tŷ, a aeth allan atynt, ac a ddywedodd wrthynt, Nage, fy mrodyr, nage, atolwg, na wnewch mor ddrygionus: gan i'r gŵr hwn ddyfod i'm tŷ i, na wnewch yr ysgelerder hyn.
24 Wele fy merch, yr hon sydd forwyn, a'i ordderch yntau; dygaf hwynt allan yn awr, a darostyngwch hwynt, a gwnewch iddynt yr hyn fyddo da yn eich golwg: ond i'r gŵr hwn na wnewch mor ysgeler.
25 Ond ni wrandawai y gwŷr arno: am hynny y gŵr a ymaflodd yn ei ordderch, ac a'i dug hi allan atynt hwy. A hwy a'i hadnabuant hi, ac a wnaethant gam â hi yr holl nos hyd y bore: a phan gyfododd y wawr, hwy a'i gollyngasant hi ymaith.
26 Yna y wraig a ddaeth, pan ymddangosodd y bore, ac a syrthiodd wrth ddrws tŷ y gŵr yr oedd ei harglwydd ynddo, hyd oleuni y dydd.
27 A'i harglwydd a gyfododd y bore, ac a agorodd ddrysau y tŷ, ac a aeth allan i fyned i'w daith: ac wele ei ordderchwraig ef wedi cwympo wrth ddrws y tŷ, a'i dwy law ar y trothwy.
28 Ac efe a ddywedodd wrthi, Cyfod, fel yr elom ymaith. Ond nid oedd yn ateb. Yna efe a'i cymerth hi ar yr asyn; a'r gŵr a gyfododd, ac a aeth ymaith i'w fangre.