1 Ac angel yr Arglwydd a ddaeth i fyny o Gilgal i Bochim, ac a ddywedodd, Dygais chwi i fyny o'r Aifft, ac arweiniais chwi i'r wlad am yr hon y tyngais wrth eich tadau; ac a ddywedais, Ni thorraf fy nghyfamod â chwi byth.
2 Na wnewch chwithau gyfamod â thrigolion y wlad hon; ond bwriwch i lawr eu hallorau: eto ni wrandawsoch ar fy llef: paham y gwnaethoch hyn?
3 Am hynny y dywedais, Ni yrraf hwynt allan o'ch blaen chwi: eithr byddant i chwi yn ddrain yn eich ystlysau, a'u duwiau fydd yn fagl i chwi.
4 A phan lefarodd angel yr Arglwydd y geiriau hyn wrth holl feibion Israel, yna y bobl a ddyrchafasant eu llef, ac a wylasant.
5 Ac a alwasant enw y lle hwnnw Bochim: ac yna yr aberthasant i'r Arglwydd.
6 A Josua a ollyngodd y bobl ymaith; a meibion Israel a aethant bob un i'w etifeddiaeth, i feddiannu y wlad.