17 Ond ni wrandawent chwaith ar eu barnwyr; eithr puteiniasant ar ôl duwiau dieithr, ac ymgrymasant iddynt: ciliasant yn ebrwydd o'r ffordd y rhodiasai eu tadau hwynt ynddi, gan wrando ar orchmynion yr Arglwydd; ond ni wnaethant hwy felly.
18 A phan godai yr Arglwydd farnwyr arnynt hwy, yna yr Arglwydd fyddai gyda'r barnwr, ac a'u gwaredai hwynt o law eu gelynion holl ddyddiau y barnwr: canys yr Arglwydd a dosturiai wrth eu griddfan hwynt, rhag eu gorthrymwyr a'u cystuddwyr.
19 A phan fyddai farw y barnwr, hwy a ddychwelent, ac a ymlygrent yn fwy na'u tadau, gan fyned ar ôl duwiau dieithr, i'w gwasanaethu hwynt, ac i ymgrymu iddynt: ni pheidiasant â'u gweithredoedd eu hunain, nac â'u ffordd wrthnysig.
20 A dicllonedd yr Arglwydd a lidiai yn erbyn Israel: ac efe a ddywedai, Oblegid i'r genedl hon droseddu fy nghyfamod a orchmynnais i'w tadau hwynt, ac na wrandawsant ar fy llais;
21 Ni chwanegaf finnau yrru ymaith o'u blaen hwynt neb o'r cenhedloedd a adawodd Josua pan fu farw:
22 I brofi Israel trwyddynt hwy, a gadwent hwy ffordd yr Arglwydd, gan rodio ynddi, fel y cadwodd eu tadau hwynt, neu beidio.
23 Am hynny yr Arglwydd a adawodd y cenhedloedd hynny, heb eu gyrru ymaith yn ebrwydd; ac ni roddodd hwynt yn llaw Josua.