6 A Josua a ollyngodd y bobl ymaith; a meibion Israel a aethant bob un i'w etifeddiaeth, i feddiannu y wlad.
7 A'r bobl a wasanaethasant yr Arglwydd holl ddyddiau Josua, a holl ddyddiau yr henuriaid y rhai a fu fyw ar ôl Josua, y rhai a welsent holl fawrwaith yr Arglwydd, yr hwn a wnaethai efe er Israel.
8 A bu farw Josua mab Nun, gwas yr Arglwydd, yn fab dengmlwydd a chant.
9 A hwy a'i claddasant ef yn nherfyn ei etifeddiaeth, o fewn Timnath‐heres, ym mynydd Effraim, o du y gogledd i fynydd Gaas.
10 A'r holl oes honno hefyd a gasglwyd at eu tadau: a chyfododd oes arall ar eu hôl hwynt, y rhai nid adwaenent yr Arglwydd, na'i weithredoedd a wnaethai efe er Israel.
11 A meibion Israel a wnaethant ddrygioni yng ngolwg yr Arglwydd, ac a wasanaethasant Baalim:
12 Ac a wrthodasant Arglwydd Dduw eu tadau, yr hwn a'u dygasai hwynt o wlad yr Aifft, ac a aethant ar ôl duwiau dieithr, sef rhai o dduwiau y bobloedd oedd o'u hamgylch, ac a ymgrymasant iddynt, ac a ddigiasant yr Arglwydd.