15 A chyfrifwyd meibion Benjamin y dydd hwnnw, o'r dinasoedd, yn chwe mil ar hugain o wŷr yn tynnu cleddyf, heblaw trigolion Gibea, y rhai a gyfrifwyd yn saith gant o wŷr etholedig.
16 O'r holl bobl hyn yr oedd saith gant o wŷr etholedig yn chwithig; pob un ohonynt a ergydiai â charreg at y blewyn, heb fethu.
17 Gwŷr Israel hefyd a gyfrifwyd, heblaw Benjamin, yn bedwar can mil yn tynnu cleddyf; pawb ohonynt yn rhyfelwyr.
18 A meibion Israel a gyfodasant, ac a aethant i fyny i dŷ Dduw, ac a ymgyngorasant â Duw, ac a ddywedasant, Pwy ohonom ni a â i fyny yn gyntaf i'r gad yn erbyn meibion Benjamin? A dywedodd yr Arglwydd, Jwda a â yn gyntaf.
19 A meibion Israel a gyfodasant y bore, ac a wersyllasant yn erbyn Gibea.
20 A gwŷr Israel a aethant allan i ryfel yn erbyn Benjamin; a gwŷr Israel a ymosodasant i ymladd i'w herbyn hwy wrth Gibea.
21 A meibion Benjamin a ddaethant allan o Gibea, ac a ddifethasant o Israel y dwthwn hwnnw ddwy fil ar hugain o wŷr hyd lawr.