19 A meibion Israel a gyfodasant y bore, ac a wersyllasant yn erbyn Gibea.
20 A gwŷr Israel a aethant allan i ryfel yn erbyn Benjamin; a gwŷr Israel a ymosodasant i ymladd i'w herbyn hwy wrth Gibea.
21 A meibion Benjamin a ddaethant allan o Gibea, ac a ddifethasant o Israel y dwthwn hwnnw ddwy fil ar hugain o wŷr hyd lawr.
22 A'r bobl gwŷr Israel a ymgryfhasant, ac a ymosodasant drachefn i ymladd, yn y lle yr ymosodasent ynddo y dydd cyntaf.
23 (A meibion Israel a aethent i fyny, ac a wylasent gerbron yr Arglwydd hyd yr hwyr: ymgyngorasent hefyd â'r Arglwydd, gan ddywedyd, A af fi drachefn i ryfel yn erbyn meibion Benjamin fy mrawd? A dywedasai yr Arglwydd, Dos i fyny yn ei erbyn ef.)
24 A meibion Israel a nesasant yn erbyn meibion Benjamin yr ail ddydd.
25 A Benjamin a aeth allan o Gibea i'w herbyn hwythau yr ail ddydd; a hwy a ddifethasant o feibion Israel eilwaith dair mil ar bymtheg o wŷr hyd lawr: y rhai hyn oll oedd yn tynnu cleddyf.