27 A meibion Israel a ymgyngorasant â'r Arglwydd, (canys yno yr oedd arch cyfamod Duw yn y dyddiau hynny;
28 A Phinees mab Eleasar, mab Aaron, oedd yn sefyll ger ei bron hi yn y dyddiau hynny;) gan ddywedyd, A chwanegaf fi mwyach fyned allan i ryfel yn erbyn meibion Benjamin fy mrawd, neu a beidiaf fi? A dywedodd yr Arglwydd, Ewch i fyny; canys yfory y rhoddaf ef yn dy law di.
29 Ac Israel a osododd gynllwynwyr o amgylch Gibea.
30 A meibion Israel a aethant i fyny yn erbyn meibion Benjamin y trydydd dydd, ac a ymosodasant wrth Gibea, fel cynt.
31 A meibion Benjamin a aethant allan yn erbyn y bobl; a thynnwyd hwynt oddi wrth y ddinas: a hwy a ddechreuasant daro rhai o'r bobl yn archolledig, fel cynt, yn y priffyrdd, o'r rhai y mae y naill yn myned i fyny i dŷ Dduw, a'r llall i Gibea yn y maes, ynghylch dengwr ar hugain o Israel.
32 A meibion Benjamin a ddywedasant, Cwympwyd hwynt o'n blaen ni, fel ar y cyntaf. Ond meibion Israel a ddywedasant, Ffown, fel y tynnom hwynt oddi wrth y ddinas i'r priffyrdd.
33 A holl wŷr Israel a gyfodasant o'u lle, ac a fyddinasant yn Baal‐tamar: a'r sawl a oedd o Israel yn cynllwyn, a ddaeth allan o'u mangre, sef o weirgloddiau Gibea.