3 (A meibion Benjamin a glywsant fyned o feibion Israel i Mispa.) Yna meibion Israel a ddywedasant, Dywedwch, pa fodd y bu y drygioni hyn?
4 A'r gŵr y Lefiad, gŵr y wraig a laddesid, a atebodd ac a ddywedodd, I Gibea eiddo Benjamin y deuthum i, mi a'm gordderch, i letya.
5 A gwŷr Gibea a gyfodasant i'm herbyn, ac a amgylchynasant y tŷ yn fy erbyn liw nos, ac a amcanasant fy lladd i; a threisiasant fy ngordderch, fel y bu hi farw.
6 A mi a ymeflais yn fy ngordderch, ac a'i derniais hi, ac a'i hanfonais hi trwy holl wlad etifeddiaeth Israel: canys gwnaethant ffieidd‐dra ac ynfydrwydd yn Israel.
7 Wele, meibion Israel ydych chwi oll; moeswch rhyngoch air a chyngor yma.
8 A'r holl bobl a gyfododd megis un gŵr, gan ddywedyd, Nac eled neb ohonom i'w babell, ac na throed neb ohonom i'w dŷ.
9 Ond yn awr, hyn yw y peth a wnawn ni i Gibea: Nyni a awn i fyny i'w herbyn wrth goelbren;