33 A holl wŷr Israel a gyfodasant o'u lle, ac a fyddinasant yn Baal‐tamar: a'r sawl a oedd o Israel yn cynllwyn, a ddaeth allan o'u mangre, sef o weirgloddiau Gibea.
34 A daeth yn erbyn Gibea ddeng mil o wŷr etholedig o holl Israel; a'r gad a fu dost: ond ni wyddent fod drwg yn agos atynt.
35 A'r Arglwydd a drawodd Benjamin o flaen Israel: a difethodd meibion Israel o'r Benjaminiaid, y dwthwn hwnnw, bum mil ar hugain a channwr; a'r rhai hyn oll yn tynnu cleddyf.
36 Felly meibion Benjamin a welsant mai eu lladd yr oeddid: canys gwŷr Israel a roddasant le i'r Benjaminiaid; oherwydd hyderu yr oeddynt ar y cynllwynwyr, y rhai a osodasent yn ymyl Gibea.
37 A'r cynllwynwyr a frysiasant, ac a ruthrasant ar Gibea: a'r cynllwynwyr a utganasant yn hirllaes, ac a drawsant yr holl ddinas â min y cleddyf.
38 Ac yr oedd amser nodedig rhwng gwŷr Israel a'r cynllwynwyr; sef peri ohonynt i fflam fawr a mwg ddyrchafu o'r ddinas.
39 A phan drodd gwŷr Israel eu cefnau yn y rhyfel, Benjamin a ddechreuodd daro yn archolledig o wŷr Israel ynghylch dengwr ar hugain: canys dywedasant, Diau gan daro eu taro hwynt o'n blaen ni, fel yn y cyntaf.