37 A'r cynllwynwyr a frysiasant, ac a ruthrasant ar Gibea: a'r cynllwynwyr a utganasant yn hirllaes, ac a drawsant yr holl ddinas â min y cleddyf.
38 Ac yr oedd amser nodedig rhwng gwŷr Israel a'r cynllwynwyr; sef peri ohonynt i fflam fawr a mwg ddyrchafu o'r ddinas.
39 A phan drodd gwŷr Israel eu cefnau yn y rhyfel, Benjamin a ddechreuodd daro yn archolledig o wŷr Israel ynghylch dengwr ar hugain: canys dywedasant, Diau gan daro eu taro hwynt o'n blaen ni, fel yn y cyntaf.
40 A phan ddechreuodd y fflam ddyrchafu o'r ddinas â cholofn o fwg, Benjamin a edrychodd yn ei ôl; ac wele fflam y ddinas yn dyrchafu i'r nefoedd.
41 Yna gwŷr Israel a droesant drachefn; a gwŷr Benjamin a frawychasant: oherwydd hwy a ganfuant fod drwg wedi dyfod arnynt.
42 Am hynny hwy a droesant o flaen gwŷr Israel, tua ffordd yr anialwch; a'r gad a'u goddiweddodd hwynt: a'r rhai a ddaethai o'r dinasoedd, yr oeddynt yn eu difetha yn eu canol.
43 Felly yr amgylchynasant y Benjaminiaid; erlidiasant hwynt, a sathrasant hwynt yn hawdd hyd yng nghyfer Gibea, tua chodiad haul.