43 Felly yr amgylchynasant y Benjaminiaid; erlidiasant hwynt, a sathrasant hwynt yn hawdd hyd yng nghyfer Gibea, tua chodiad haul.
44 A lladdwyd o Benjamin dair mil ar bymtheg o wŷr: y rhai hyn oll oedd wŷr nerthol.
45 A hwy a droesant, ac a ffoesant tua'r anialwch i graig Rimmon. A'r Israeliaid a loffasant ohonynt ar hyd y priffyrdd, bum mil o wŷr: erlidiasant hefyd ar eu hôl hwynt hyd Gidom, ac a laddasant ohonynt ddwy fil o wŷr.
46 A'r rhai oll a gwympodd o Benjamin y dwthwn hwnnw, oedd bum mil ar hugain o wŷr yn tynnu cleddyf: hwynt oll oedd wŷr nerthol.
47 Eto chwe channwr a droesant, ac a ffoesant i'r anialwch i graig Rimmon, ac a arosasant yng nghraig Rimmon bedwar mis.
48 A gwŷr Israel a ddychwelasant ar feibion Benjamin, ac a'u trawsant hwy â min y cleddyf, yn ddyn o bob dinas, ac yn anifail, a pheth bynnag a gafwyd: yr holl ddinasoedd hefyd a'r a gafwyd, a losgasant hwy â thân.