12 A hwy a gawsant ymhlith trigolion Jabes Gilead, bedwar cant o lancesau yn wyryfon, y rhai nid adnabuasent ŵr trwy gydorwedd â gŵr: a dygasant hwynt i'r gwersyll i Seilo, yr hon sydd yng ngwlad Canaan.
13 A'r holl gynulleidfa a anfonasant i lefaru wrth feibion Benjamin, y rhai oedd yng nghraig Rimmon, ac i gyhoeddi heddwch iddynt.
14 A'r Benjaminiaid a ddychwelasant yr amser hwnnw; a hwy a roddasant iddynt hwy y gwragedd a gadwasent yn fyw o wragedd Jabes Gilead: ond ni chawsant hwy ddigon felly.
15 A'r bobl a edifarhaodd dros Benjamin, oherwydd i'r Arglwydd wneuthur rhwygiad yn llwythau Israel.
16 Yna henuriaid y gynulleidfa a ddywedasant, Beth a wnawn ni am wragedd i'r lleill, gan ddistrywio y gwragedd o Benjamin?
17 Dywedasant hefyd, Rhaid yw bod etifeddiaeth i'r rhai a ddihangodd o Benjamin, fel na ddileer llwyth allan o Israel.
18 Ac ni allwn ni roddi iddynt wragedd o'n merched ni: canys meibion Israel a dyngasant, gan ddywedyd, Melltigedig fyddo yr hwn a roddo wraig i Benjamin.