17 Dywedasant hefyd, Rhaid yw bod etifeddiaeth i'r rhai a ddihangodd o Benjamin, fel na ddileer llwyth allan o Israel.
18 Ac ni allwn ni roddi iddynt wragedd o'n merched ni: canys meibion Israel a dyngasant, gan ddywedyd, Melltigedig fyddo yr hwn a roddo wraig i Benjamin.
19 Yna y dywedasant, Wele, y mae gŵyl i'r Arglwydd bob blwyddyn yn Seilo, o du y gogledd i Bethel, tua chyfodiad haul i'r briffordd y sydd yn myned i fyny o Bethel i Sichem, ac o du y deau i Libanus.
20 Am hynny y gorchmynasant hwy i feibion Benjamin, gan ddywedyd, Ewch a chynllwynwch yn y gwinllannoedd:
21 Edrychwch hefyd; ac wele, os merched Seilo a ddaw allan i ddawnsio mewn dawnsiau; yna deuwch chwithau allan o'r gwinllannoedd, a chipiwch i chwi bob un ei wraig o ferched Seilo, ac ewch i wlad Benjamin.
22 A phan ddelo eu tadau neu eu brodyr hwynt i achwyn atom ni, yna y dywedwn wrthynt, Byddwch dda iddynt er ein mwyn ni; oblegid na chadwasom i bob un ei wraig yn y rhyfel: o achos na roddasoch chwi hwynt iddynt y pryd hwn, ni byddwch chwi euog.
23 A meibion Benjamin a wnaethant felly; a chymerasant wragedd yn ôl eu rhifedi, o'r rhai a gipiasent, ac a oeddynt yn dawnsio: a hwy a aethant ymaith, a dychwelasant i'w hetifeddiaeth, ac a adgyweiriasant y dinasoedd, ac a drigasant ynddynt.