4 A thrannoeth y bobl a foregodasant, ac a adeiladasant yno allor, ac a offrymasant boethoffrymau ac offrymau hedd.
5 A meibion Israel a ddywedasant, Pwy o holl lwythau Israel ni ddaeth i fyny gyda'r gynulleidfa at yr Arglwydd? canys llw mawr oedd yn erbyn yr hwn ni ddelsai i fyny at yr Arglwydd i Mispa, gan ddywedyd, Rhoddir ef i farwolaeth yn ddiau.
6 A meibion Israel a edifarhasant oherwydd Benjamin eu brawd: a dywedasant, Torrwyd ymaith heddiw un llwyth o Israel:
7 Beth a wnawn ni am wragedd i'r rhai a adawyd, gan dyngu ohonom ni i'r Arglwydd, na roddem iddynt yr un o'n merched ni yn wragedd?
8 Dywedasant hefyd, Pa un o lwythau Israel ni ddaeth i fyny at yr Arglwydd i Mispa? Ac wele, ni ddaethai neb o Jabes Gilead i'r gwersyll, at y gynulleidfa.
9 Canys y bobl a gyfrifwyd; ac wele, nid oedd yno neb o drigolion Jabes Gilead.
10 A'r gynulleidfa a anfonasant yno ddeuddeng mil o wŷr grymus; ac a orchmynasant iddynt, gan ddywedyd, Ewch a threwch breswylwyr Jabes Gilead â min y cleddyf, y gwragedd hefyd a'r plant.