3 Pum tywysog y Philistiaid, a'r holl Ganaaneaid, a'r Sidoniaid, a'r Hefiaid y rhai oedd yn aros ym mynydd Libanus, o fynydd Baal‐hermon, hyd y ffordd y deuir i Hamath.
4 A hwy a fuant i brofi Israel trwyddynt, i wybod a wrandawent hwy ar orchmynion yr Arglwydd, y rhai a orchmynasai efe i'w tadau hwynt trwy law Moses.
5 A meibion Israel a drigasant ymysg y Canaaneaid, yr Hethiaid, a'r Amoriaid, a'r Pheresiaid, yr Hefiaid hefyd, a'r Jebusiaid:
6 Ac a gymerasant eu merched hwynt iddynt yn wragedd, ac a roddasant eu merched i'w meibion hwythau, ac a wasanaethasant eu duwiau hwynt.
7 Felly meibion Israel a wnaethant ddrygioni yng ngolwg yr Arglwydd, ac a anghofiasant yr Arglwydd eu Duw, ac a wasanaethasant Baalim, a'r llwyni.
8 Am hynny dicllonedd yr Arglwydd a lidiodd yn erbyn Israel; ac efe a'u gwerthodd hwynt i law Cusan‐risathaim, brenin Mesopotamia: a meibion Israel a wasanaethasant Cusan‐risathaim wyth mlynedd.
9 A meibion Israel a waeddasant ar yr Arglwydd: a'r Arglwydd a gododd achubwr i feibion Israel, yr hwn a'u hachubodd hwynt; sef Othniel mab Cenas, brawd Caleb, ieuangach nag ef.