11 A Heber y Cenead, o feibion Hobab, chwegrwn Moses, a ymneilltuasai oddi wrth y Ceneaid, ac a ledasai ei babell hyd wastadedd Saanaim, yr hwn sydd yn ymyl Cedes.
12 A mynegasant i Sisera, fyned o Barac mab Abinoam i fyny i fynydd Tabor.
13 A Sisera a gynullodd ei holl gerbydau, sef naw can cerbyd haearn, a'r holl bobl y rhai oedd gydag ef, o Haroseth y cenhedloedd hyd afon Cison.
14 A Debora a ddywedodd wrth Barac, Cyfod; canys hwn yw y dydd y rhoddodd yr Arglwydd Sisera yn dy law di: onid aeth yr Arglwydd allan o'th flaen di? Felly Barac a ddisgynnodd o fynydd Tabor, a deng mil o wŷr ar ei ôl.
15 A'r Arglwydd a ddrylliodd Sisera, a'i holl gerbydau, a'i holl fyddin, â min y cleddyf, o flaen Barac: a Sisera a ddisgynnodd oddi ar ei gerbyd, ac a ffodd ar ei draed.
16 Ond Barac a erlidiodd ar ôl y cerbydau, ac ar ôl y fyddin, hyd Haroseth y cenhedloedd: a holl lu Sisera a syrthiodd ar fin y cleddyf: ni adawyd un ohonynt.
17 Ond Sisera a ffodd ar ei draed i babell Jael, gwraig Heber y Cenead: canys yr oedd heddwch rhwng Jabin brenin Hasor a thŷ Heber y Cenead.