21 Yna Jael gwraig Heber a gymerth hoel o'r babell, ac a gymerodd forthwyl yn ei llaw, ac a aeth i mewn ato ef yn ddistaw, ac a bwyodd yr hoel yn ei arlais ef, ac a'i gwthiodd i'r ddaear; canys yr oedd efe yn cysgu, ac yn lluddedig; ac felly y bu efe farw.
22 Ac wele, a Barac yn erlid Sisera, Jael a aeth i'w gyfarfod ef; ac a ddywedodd wrtho, Tyred, a mi a ddangosaf i ti y gŵr yr wyt ti yn ei geisio. Ac efe a ddaeth i mewn ati; ac wele Sisera yn gorwedd yn farw, a'r hoel yn ei arlais.
23 Felly y darostyngodd Duw y dwthwn hwnnw Jabin brenin Canaan o flaen meibion Israel.
24 A llaw meibion Israel a lwyddodd, ac a orchfygodd Jabin brenin Canaan, nes iddynt ddistrywio Jabin brenin Canaan.