19 A Gedeon a aeth i mewn, ac a baratôdd fyn gafr, ac effa o beilliaid yn fara croyw: y cig a osododd efe mewn basged, a'r isgell a osododd efe mewn crochan; ac a'i dug ato ef dan y dderwen, ac a'i cyflwynodd.
20 Ac angel Duw a ddywedodd wrtho, Cymer y cig, a'r bara croyw, a gosod ar y graig hon, a thywallt yr isgell. Ac efe a wnaeth felly.
21 Yna angel yr Arglwydd a estynnodd flaen y ffon oedd yn ei law, ac a gyffyrddodd â'r cig, ac â'r bara croyw: a'r tân a ddyrchafodd o'r graig, ac a ysodd y cig, a'r bara croyw. Ac angel yr Arglwydd a aeth ymaith o'i olwg ef.
22 A phan welodd Gedeon mai angel yr Arglwydd oedd efe, y dywedodd Gedeon, Och, O Arglwydd Dduw! oherwydd i mi weled angel yr Arglwydd wyneb yn wyneb.
23 A dywedodd yr Arglwydd wrtho, Tangnefedd i ti: nac ofna; ni byddi farw.
24 Yna Gedeon a adeiladodd yno allor i'r Arglwydd, ac a'i galwodd Jehofah-shalom: hyd y dydd hwn y mae hi eto yn Offra eiddo yr Abiesriaid.
25 A'r noson honno y dywedodd yr Arglwydd wrtho ef, Cymer y bustach sydd eiddo dy dad, sef yr ail fustach saith mlwydd oed; a bwrw i lawr allor Baal yr hon sydd eiddo dy dad, a thor i lawr y llwyn sydd yn ei hymyl hi: